Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mehefin 2020
Amser:
10.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Williams
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddDCC@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod anffurfiol (09:30-10:00)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
10:00
2 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
10:00-10:05
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
2.1 SL(5)556 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
(Tudalennau 1 - 50)
CLA(5)-19-20 – Papur 1 – Adroddiad
CLA(5)-19-20 – Papur 2 – Rheoliadau
CLA(5)-19-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol
CLA(5)-19-20 – Papur 4 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 8 Mehefin 2020
3 Papur(au) i’w nodi
10:05-10:10
3.1 Llythyr gan y Prif Weinidog: Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020
(Tudalennau 51 - 53)
CLA(5)-19-20 – Papur 5 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 15 Mehefin 2020
CLA(5)-19-20 – Papur 6 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Rheoliadau drafft mewn perthynas â Chofrestr Etholiadol 2020
(Tudalennau 54 - 56)
CLA(5)-19-20 – Papur 7 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 16 Mehefin 2020
CLA(5)-19-20 – Papur 8 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru
3.3 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Canllawiau ar ddrafftio deddfwriaeth
(Tudalennau 57 - 91)
CLA(5)-19-20 – Papur 9 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 17 Mehefin 2020
CLA(5)-19-20 – Papur 10 – Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019: Canllawiau ar baratoi deddfwriaeth
CLA(5)-19-20 – Papur 11 – Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020: Canllawiau ar oblygiadau drafftio deddfwriaethol Rhan 2
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
10:10
5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd – trafod yr adroddiad drafft
10:10-10:40 (Tudalennau 92 - 141)
CLA(5)-19-20 – Papur 12 – Adroddiad drafft
CLA(5)-19-20 – Papur 13 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 14 Mai 2020 (Diwygiedig)
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth
10:40-10:50 (Tudalennau 142 - 147)
CLA(5)-19-20 – Papur 14 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Dyddiad y cyfarfod nesaf – 29 Mehefin 2020